How to be an Excellent Head of Science!

How to be an Excellent Head of Science!
Many science teachers have ambitions to progress to be a Head of Science.
However, there is little support available for these teachers to assess their strengths
and improve any areas of their practice or knowledge towards the ‘ideal Head of
Science’. The role is challenging and requires a diverse set of skills and abilities.
This workshop will provide an overview of the current pressures and initiatives in secondary science
education, including the National Literacy and Numeracy Frameworks, National Curriculum review,
and ever-shifting GCSEs in science. The workshops will ascertain participants’ skills and areas
for improvement and set in motion a short piece of action research towards the goal of ‘Head of
Science’.
This exciting workshop is developed and delivered by Julie Addis, a founding member of Think,
Learn, Challenge! (TLC!). Formerly Science Officer and Lead on the Developing thinking and
assessment for learning programmes’ for the Welsh Government, she recently directed the contract
with the Welsh Government to produce guidance for schools in implementing the National Literacy
and Numeracy Frameworks (LNF).
Outcomes
Participants will:
• Have knowledge of the current position in Wales for science education from KS3 to GCSE.
• Understand the impact of current pressures and initiatives on science education.
• Recognise their own skills and areas for improvement which will allow progress to become Head
of Science.
• Start to move towards the goal of becoming a Head of Science.
The cost for attending this course will be £50. However, the course is funded by the National
Science Learning Centre (NSLC) and participants will be eligible for a bursary of £200 per day to
offset associated costs. But teachers MUST attend both days and complete all paperwork to
qualify.
North Wales:
5th November and 6th December 2013
At Venue Cymru, The Promenade, Llandudno LL30 1BB
South Wales:
11th November and 10th December 2013
At Village Hotel, 29 Pendwyallt Road, Cardiff CF14 7EF (junction 32 M4)
How to apply
Contact Andrea Meyrick, Head of Education, Techniquest.
Tel: 029 2047 5467 or email: [email protected]
Note:
The NSLC has secured funding to offer opportunities for teachers in
Wales to access high quality Science CPD. This will be managed
by Techniquest in partnership with Welsh Government and LEA’
representatives
Sut i fod yn Bennaeth Gwyddoniaeth Gwych!
Uchelgais llawer o athrawon gwyddoniaeth yw i fod yn Bennaeth Gwyddoniaeth. Serch
hynny, ychydig o gefnogaeth sydd ar gael i athrawon allu asesu eu cryfderau ac i wella
unrhyw ran o’u arferion neu wybodaeth er mwyn bod yn ‘Bennaeth Gwyddoniaeth
delfrydol’. Mae’r rôl yn un heriol ac yn gofyn am ystod eang o sgiliau a galluoedd.
Bydd y gweithdy yma yn rhoi trosolwg o’r pwysau a’r mentrau sydd mewn addysg gwyddoniaeth
uwchradd ar hyn o bryd, gan gynnwys y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol, adolygiad
o’r Cwricwlwm Cenedlaethol, a’r newidiadau cyson mewn arholiadau TGAU. Bydd y gweithdai
yn canfod sgiliau cyfranogwyr ynghyd â lle gellir gwella a bydd yn cychwyn darn byr o ymchwil
gweithredu tuag at y nod o fod yn ‘Bennaeth Gwyddoniaeth’.
Mae’r gweithdy cyffrous yma wedi ei ddatblygu gan Julie Addis , a hi fydd yn ei gyflwyno. Mae Julie
yn aelod gwreiddiol o Think, Learn, Challenge! (TLC!). Mae hi hefyd yn gyn Swyddog Gwyddoniaeth
ac Arweinydd rhaglenni Datblygu Meddwl ac Asesiad i Ddysgu i Lywodraeth Cymru ac yn ddiweddar
bu hi’n cyfarwyddo’r cytundeb gyda Llywodraeth Cymru i gynhyrchu canllawiau i ysgolion ar sut i
weithredu’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.
Canlyniadau
Bydd cyfranogwyr yn:
• Cael gwybodaeth o’r safbwynt ar hyn o bryd yng Nghymru ar addysg gwyddoniaeth o CA3 i
TGAU.
• Deall effaith pwysau a mentrau cyfredol ar addysg gwyddoniaeth.
• Adnabod eu sgiliau eu hunain a lle gallent wella er mwyn symud ymlaen at fod yn Bennaeth
Gwyddoniaeth.
• Dechrau symud tuag at y nod o fod yn Bennaeth Gwyddoniaeth.
Cost mynychu’r cwrs fydd £50 ond mae’r cwrs wedi ei ariannu gan y National Science Learning
Centre (NSLC) a bydd cyfranogwyr yn gymwys i dderbyn bwrsari o £200 y diwrnod tuag at gostau
perthnasol. Bydd yn RHAID i athrawon fynychu’r ddau ddiwrnod a chwblhau pob gwaith
papur cyn cael yr arian.
Gogledd Cymru:
Tachwedd 5ed a Rhagfyr 6ed 2013
Yn Venue Cymru, The Promenade, Llandudno LL30 1BB
De Cymru:
Tachwedd 11eg a Rhagfyr 10ed 2013
Yn Village Hotel, 29 Pendwyallt Road, Caerdydd CF14 7EF (cyffordd 32 M4)
Sut i wneud cais am le
Cysylltwch ag Andrea Meyrick, Pennaeth Addysg, Techniquest.
Ffôn: 029 2047 5467 neu ebost: [email protected]
Sylwer:
Mae’r CDGG wedi sicrhau arian er mwyn cynnig cyfleoedd i
athrawon yng Nghymru gael mynediad i Ddatblygiad Proffesiynol
Parhaus o safon uchel mewn Gwyddoniaeth. Bydd hyn yn cael ei
reoli gan Techniquest mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a
chynrychiolwyr AALl.